Yr awyr dywyll uwch Cymru // The dark skies of Wales

Y rhan fwyaf o nosweithiau, fe ddewch chi o hyd i’r ffotograffydd, Dafydd Wyn Morgan ar fynydd gyda’i gamera yn ei law, yn aros am y llun perffaith.

Yn byw yn Nhregaron, mae’n teithio ledled Cymru yn tynnu lluniau trawiadol o’r awyr dywyll, ei sêr a’i goleuadau lliwgar, ac yn dangos i ni’r golygfeydd anhygoel all ddigwydd uwch ein pennau, wedi iddi nosi.

//

Most evenings, you can find photographer Dafydd Wyn Morgan up a mountain with his camera, waiting for the perfect photo.

Although he lives in Tregaron, he travels around Wales, capturing stunning images of the dark sky, its stars and colours, and shows us what we’re missing out on when we’re in bed at night…

AbergwesynFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Hen ffordd y porthmyn rhwng Tregaron ac Abergwesyn // The old drovers’ route between Tregaron and Abergwesyn

“Bu farw fy mam yng nghyfraith, Alison, yn 2011 ac mi fues yn lwcus i etifeddu ei chamera ar ôl ei marwolaeth. Cam wrth gam dechreuais ddefnyddio’r camera wrth gerdded mynyddoedd Cymru, nes un prynhawn, wrth iddi fachlud, dywedodd rhywun wrthaf fod y camera yn ddigon da i dynnu lluniau gyda’r nos.

“A dyna ni; dyma fi’n dechrau mynd allan wedi iddi nosi a darganfod rhyfeddodau’r camera yn y tywyllwch.

//

“Alison, my mother-in-law died in 2011 and I inherited her camera. I started using it whilst hiking the Welsh mountains, until somebody mentioned, as the sun was setting, that the camera was good enough to take pictures at night.

“And that was it; I then started going out after dark and discovered the wonders of the camera in the darkness.

Carreg Fawr AbermarlaisFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Cyflymdra’r traffig ar yr A40 ger Llangadog, Sir Gâr // Cars speed by on the A40 in Llangadog
Llyn BrianneFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Teithiodd y ddau ymwelydd yma yr holl ffordd o Lundain i weld y sêr. Sioc iddynt felly oedd gweld Llewyrch yr Arth uwchben cronfa ddŵr Llyn Brianne // These visitors from London got to experience the Aurora Borealis at Llyn Brianne

“Mae angen chwarae gyda gosodiadau’r camera i dynnu lluniau gyda’r nos. Gadael digon o olau i fewn i’r camera a chadw’r shutter ar agor mor hir ag yw’r lens yn caniatáu, ac mae ffocysu yn bwysig hefyd.

//

“You need to play about a bit with the camera’s settings to take photos at night. Let in enough light into the camera and leave the shutter open as long as the lens allows, and the focus is important too.

Ynys EnlliFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Ynys Enlli o Borth Felen, Pen Llŷn, gyda’r Llwybr Llaethog uwchben // The milky way above Bardsey Island
Eglwys Ysbyty YstwythFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr yn Ysbyty Ystwyth // A church in Ysbyty Ystwyth

“Erbyn hyn mae gen i gamera newydd, tripodremote control a ‘bits and bobs‘ eraill ac rwyf dal i deithio Cymru o Ynys Enlli i Sir Benfro yn dysgu sut i dynnu lluniau o’r tirwedd a’r wybren dywyll.

//

“Now, I have a new camera, tripod, remote control and other bits and bobs, and I travel Wales, from Bardsey Island to Pembrokeshire, learning how to take pictures of the landscape and dark sky.

Mynydd LlanllwniFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Llewyrch yr Arth uwchben Safle Darganfod Yr Wybren Dywyll ar Fynydd Llanllwni // Llanllwni mountain – an ideal place to view the Aurora Borealis
Cerflun Y PererinFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Lleuad lawn tu ôl i gerflun Y Pererin ger Ystrad Fflur, Pontrhydfendigaid // A statue of The Pilgrim set against the huge, bright moon

“Dwi’n mynd allan bob tro mae’n glir ac yn ystod cyfnod y lleuad newydd. Dwi’n hoffi tynnu lluniau cawodydd meteor, y Llwybr Llaethog (Milky Way) a Llewyrch yr Arth (Aurora Borealis).

//

“I go out anytime it’s clear and at the new moon. I enjoy taking photos of meteor showers, the Milky Way and the Aurora Borealis.

Cambrian Trees HutsFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Cambrian Trees Huts: Yma gwelwch y sêr yn troi ond mewn gwirionedd y byd sy’n troi ar ei echel // Are the stars spinning, or is it the world turning?
Carn Groes Fawr BlaencaronFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Y Llwybr Llaethog a seren wib uwch safle claddu hynafol ger Tregaron // The milky way and a shooting star above an ancient burial site

“Mae addysgu ein pobl ifanc am bwysigrwydd tywyllwch y nos mor bwysig. Byddwn i’n annog pobl i baratoi’n dda a mynd allan wedi iddi dywyllu gyda ffrindiau neu deulu a mwynhau syfrdandod yr wybren dywyll yma yng Nghymru.

//

“Educating our young people about the importance of the darkness of the night is so important. I would encourage people to prepare and go out after it gets dark with friends and family and enjoy the amazing views of the night sky here in Wales.

Pentre IfanFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Cromlech hynafol Pentre Ifan, Sir Benfro // Pentre Ifan dolmen in Pembrokeshire
Star trail JibincFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Cylchdro’r byd uwchben llety glampio Jibinc ger Llanilar, Ceredigion // Spinning around at a glamping site in Ceredigion

“Yn raddol mae’r diddordeb wedi bod yn fodd i fyw ac rwyf wedi elwa’n fawr o’r tywyllwch dros y blynyddoedd.

“Rwy’n treulio nosweithiau cyfan allan yn rhewi’n gorn pan fydd y cymylau’n clirio a’r tymheredd yn cwympo. Mae fflasg o goffi twym wastad yn helpu. Wedi’r cyfan, mae e werth e, ond yw e?”

//

“I’m in my element and I’ve benefitted greatly from the darkness over the years.

“I spend whole nights out in the cold when the clouds clear and the temperature drops. A flask of hot coffee helps. After all, it’s worth it, isn’t it?”

SugarloafFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Y Sugar Loaf ger Cynghordy. Dyna’r A483 islaw’r mynydd a’r Llwybr Llaethog uwchben // The milky way high above the A483 near Sugar Loaf mountain
Ynys EnlliFFYNHONNELL Y LLUN,DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Llewyrch yr Arth, y lleuad ac un o hen adeiladau Ynys Enlli, Tŷ Nesaf // The Aurora Borealis turning the sky above Bardsey Island purple for the evening

Related Articles

Back to top button