Adeiladau anghofiedig Cymru // Wales’ forgotten buildings

Mae’r ffotograffydd o Abertawe, Steve Liddiard yn crwydro Cymru yn dogfennu rhai o’n hadeiladau amddifad, anghofiedig, er mwyn eu rhoi ar gof a chadw, cyn iddyn nhw fynd ar goll am byth. Yma, mae’n egluro mwy:

//

Swansea photographer Steve Liddiard travels around Wales, keeping a record of some of our forgotten buildings, so that they aren’t forgotten forever. Here, he explains more:

line
Capel mawreddog, Abertawe // A chapel in SwanseaFFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

Capel, Abertawe // A chapel in Swansea

‘Nes i ddechrau tynnu lluniau rhyw bum mlynedd yn ôl. Ro’n i’n diodde’ llawer gyda gor-bryder a ges i fy nghynghori i fynd am dro i helpu.

Dyna pryd ‘nes i ddechrau tynnu lluniau gyda fy ffôn, ac ar ôl eu rhannu gyda ffrindiau ac ar y cyfryngau cymdeithasol a chael ymateb da, ‘nes i gael mwy o offer fel camera DSLR a drôns drud i fynd â’r peth i’r lefel nesa’.

//

I started taking photos around five years ago. I struggled a lot with anxiety and was advised that going for walks would help.

Along these walks I would take photos with my camera phone and after shared them with family and on social medihad a lot of positive feedback. This snowballed and I got more equipment like DSLR camera and highend drones to take it to a new level.

Capel yn ardal Abertawe // A chapel in SwanseaFFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

Capel, Abertawe // A chapel in Swansea

Mae rhai o’r lleoliadau hanesyddol rwy’ wedi tynnu eu llun bellach wedi diflannu, felly mae ‘na hefyd ochr bwysig i’r prosiect o ran cadwraeth gweledol.

Fy mwriad yw i ddogfennu a dal y lleoliadau yma cyn iddyn nhw gael eu colli am byth.

//

Some of the historic locations I have shot no longer exist so visual preservation i also an important aspect to the project.

My aim is to document and capture these locations before they are lost altogether.

Bwthyn // A dilapidated cottage in south WalesFFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

Bwthyn yn dechrau mynd â’i ben iddo, de Cymru // A dilapidated cottage in south Wales
DinorwigFFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

Pentref y chwarelwyr, Chwarel Dinorwig, gogledd Cymru // Quarrymen’s houses, Dinorwig Quarry, north Wales

Rydw i’n gwneud llawer o ymchwil i mewn i’r lleoedd yma. Rwy’ fel arfer yn defnyddio mapiau OS, sydd yn dangos mapiau hŷn y gallwch chi eu gosod dros fapiau mwy modern. Mae’r hen fapiau yn dangos beth oedd yn arfer bod, yn gapel neu’n blasdy…

Rwy’n gweithio o fewn tîm bach iawn o ffotograffwyr; fel arfer, ry’n ni’n mynd i’r llefydd yma gyda’n gilydd, ac yn ein sgyrsiau ar-lein, yn rhannu lleoliadau a mannau o ddiddordeb, ac yn gweithio gyda’n gilydd i gasglu cliwiau er mwyn gweithio mas lleoliad. Mae’r we, wrth gwrs, wedi helpu’n aruthrol gyda’r ymchwil.

//

A lot of research goes into locating these places. I usually use OS maps which will show you older maps which you can then overlay on more modern maps. These older maps show what used to be, whether it was a chapel or manor house.

I work within a very small team of photographers; we usually head to these places together and in our online chat, share locations and areas of interest, working together to build up clues to narrow down a search. The internet, of course, has helped massively with the research.

MaenofferenFFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

Adfeilion o Chwarel Maenofferen, gogledd Cymru // Maenofferen Quarry, north Wales
Plasty yn dyddio i 1777FFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

Plasty yn dyddio i 1777, de orllewin Cymru // Manorhouse dating to 1777, south west Wales

Rwy’n teimlo fod angen amddiffyn union leoliadau’r safleoedd yma. Er fod y rhan fwyaf mewn stad ofnadwy, mae ‘na beryg y byddai pobl yn mynd i’r lleoliadau ‘ma am resymau sinistr.

Os oes gennych chi’r diddordeb a’r amser, gallech chi ddod o hyd i’r llefydd yma ar eich pen eich hun, neu’n ‘nabod rhywun sydd yn gwybod amdano. Ond mae e i gyd am geisio diogelu a chofnodi’r llefydd yma, fel y gallen nhw oroesi cyn hired â phosib.

//

I feel the exact location of these sites need to be protected. Although most are in a terrible state of disrepair, there is always a risk of people heading to these locations without the right intentions.

If you have an interest and the time, you could track down most of these places yourself, or maybe know someone who knows about the place. But it’s all about trying to preserve and document these places so they can survive as long as possible.

Capel hardd // Secluded chapelFFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

Capel hardd diarffordd, gogledd Cymru // Secluded chapel, north Wales
Y 'Capel Glas', gogledd CymruFFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

Y ‘Capel Glas’, gogledd Cymru // ‘Blue Chapel’, north Wales

Gallai fod yn beryglus. Y rhan fwyaf o’r amser, dydw i ddim yn mynd fy hun, neu os yw’n safle diogel, rwy’ dal yn gadael i’n nheulu a ffrindiau wybod lle ydw i. Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o’r llefydd yma yn anghysbell ac yn guddiedig, felly os gewch chi ddamwain, mae cael help am fod yn anodd iawn.

Gallwch weld fod strwythurau rhai o’r adeiladau ddim yn ddiogel, felly bydden i wastad yn tynnu lluniau o’r tu fas. Peidiwch byth â rhoi eich hun mewn perygl ar gyfer llun!

//

It can be dangerous. For most locations I never go alone, or if it’s a safer site I still checkin with family and friends just to let them know where I am. Of course most of these locations are very remote and hidden away, and if you were to have an accident, getting help would be extremely difficult.

You can see with some structures that the building isn’t safe, so I would always shoot from the outside. But never put yourself at risk for a photo!

Manor House, Ynys Môn // Manor House, AngleseyFFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

Manor House, Ynys Môn // Manor House, Anglesey
carFFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

1953 Daimler Conquest Saloon mewn hen adfail, ger Wrecsam // 1953 Daimler Conquest Saloon in an old ruin, near Wrexham

O’n i’n ddigon lwcus yn 2021 i ennill Ffotograffydd Hanesyddol y Flwyddyn 2021 am fy llun o Oleudy Whiteford ar y Gŵyr. Cafodd y llun yma ei rannu ledled y byd, o Asia i CNN America.

//

I was lucky enough in 2021 to be awarded Historical Photographer Of the Year 2021 for my image of Whiteford Lighthouse, Gower. This image was then shared all over the world as far as Asia and CNN America.

Goleudy Whiteford, y Gŵyr // Whiteford Lighthouse, GowerFFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

Goleudy Whiteford, y Gŵyr // Whiteford Lighthouse, Gower
Olwyn ddŵrFFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

Olwyn ddŵr danddaearol, canolbarth Cymru // Underground mine water wheel, mid Wales

Ges i sioc eleni, mod i wedi ennill Ffotograffydd Hanesyddol y Flwyddyn eto yn 2022 am fy llun o felin wlân anghofiedig, lle mae natur yn dechrau cymryd drosodd. Roedd ‘na tua 1,300 o ymgeisiadau eleni, gan ffotograffwyr proffesiynol ac amatur o bedwar ban byd.

//

To my surprise, this year, I‘ve won Historical Photographer of the Year 2022 again for my image of a long forgotten woollen mill, slowly being taken over by nature. There were around 1,300 entries this year, professionals and amateur photographers, from across the world.

Melin wlân, canolbarth Cymru // Woollen mill, mid WalesFFYNHONNELL Y LLUN,STEVE LIDDIARD
Disgrifiad o’r llun,

Melin wlân, canolbarth Cymru // Woollen mill, mid Wales

Related Articles

Back to top button